Mae gan maes-e lawer i’w ddweud am golwg360.
Rhai o’r uchafbwyntiau:
Mae’n bosib taw defnyddiwr maes-e ddangosodd i golwg sut i gael datrysiad dros-dro i’w problemau…
Macsen:
Mae yna broblemau technegol ar hyn o bryd.
Allai’m esbonio’r broblem ond mae gwagio eich cache (yr opsiwn Clear Private Data yn firefox…) i weld yn datrys y peth dros dro!
Pob lwc!
Tra bod defnyddiwr arall yn arch-gachwr:
Ray Diota:
Macsen a ddywedodd:gwagio eich cache
wastad yn neud i fi d’imlo’n well ta beth…
ac ambell nodyn craff yn ychwanegol:
falle bod hi braidd yn gynnar, ond be ffwc yw pwrpas ‘Y Maes’??
hefyd, dwi’n dipyn o gretin ar y we a wy’n lico mynd nol i’r hafan yn weddol amal… dyw hynna ddim i’w weld yn bosib…?
Ambell un yn ceisio bod yn fwy adeiladol, ond wedyn yn anobeithio…
Hedd Gwynfor:
Nid yw’r teclyn anfon stori at gyfeiriad ebost yn gweithio.
Mae’r tudalennau Telerau ac Amodau + Polisi Preifatrwydd yn hollol wag.
Dewin a ddywedodd:Y sgandal mwya’ yw’r llun a’r datganiad sy’n disgrifio’r lansiad: 4 hen ddyn sy’n gwybod dim am dechnoleg yn llongyfarch eu gilydd am osod Golwg360 ar sylfaen broffesiynnol.Ti’n llygaid dy le yma. Dyna’n union wnes i feddwl o weld y llun yna ar y dudalen flaen hefyd.
![]()
Mae’r newyddion am y ffars wedi cyrraedd yn eitha pell erbyn hyn:
Duw:
JEEEEEEEEZYS CREIST!
Ac yn anhygoel, wrth iolopjones:
Y ffaith ydi nad oes un ceiniog o’r £200k, na’r £600k wedi mynd ar y dechnoleg. Noddiant cwmnïau masnachol fel Golwg Cyf, Tinopolis, Telesgop a fy nghwmni i, TV Everywhere, sydd wedi bod yn talu am ddatblygu’r dechnoleg. Aeth y grant ar newyddiadurwyr (pwyslais y golygydd).
Pa ran o “safle gwe newyddion” sy’ mor anodd, wir?