golwg ar golwg360 heddiw

golwg ar golwg360 heddiw

Dyma’r hyn sydd ar dudalen fgyntaf safle golwg360 ar hyn o bryd:

Yn anffodus, mae rhai pobol yn cael anhawster technegol wrth geisio defnyddio gwasanaeth newydd Golwg 360 ar hyn o bryd.

Mae’n ddrwg iawn gynnon ni am hynny ac rydym wrthi’n ceisio datrys y broblem.

Yn y cyfamser, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud a ddylai helpu

* Mynd i mewn i golwg360. Clirio cookies o’ch gwelywiwr … Internet Explorer neu Mozilla neu beth bynnag …
* Freshau’r dudalen
* Ar y dudalen flaen, llenwch y manylion cofrestru.

Diolch am fod yn amyneddgar. Ryden ni’n gwneud ein gorau!

I’r wefan

Dy’n ni ddim yn hollol siwr beth yw “Freshau” nac ychwaith wedi llwyddo i gofrestru gyda’r safle. Yn anffodus, ry’n ni’n credu bod ein porwr gwe’n rhy fodern i’r safle. Efallai y byddai’n well i ni ôl-lwytho meddalwedd Mosaic.