Mewn eiliad o athrylith, llwyddodd y defnyddiwr “dafydd” o maes-e. Jyst llwyddo. Anodd diffinio llwyddiant weithie. Dyma ddiffiniad i chi:
Dros y penwythnos dwi wedi adeiladu gwefan sy’n cymeryd erthyglau Golwg360 a’i dangos mewn ffurf haws i’w darllen, gobeithio. Na, dyw e DDIM am fod mor ’soffistedig/cymleth’ a’r wefan go iawn, am nad oes posib cael yr erthyglau fewn i’r un categorïau, ond o leia mae ganddo RSS! Ewch i weld Golwg Arall.
Roedd y cyswllt “Golwg Arall” yn arwain at gampwaith. Mae llun o’r safle isod:

Mae e’ naill ai’n gamsyniad bach - neu pisstake gorau’r byd erioed.
Haha, nid camgymeriad pwrpasol, ond yn wahanol i Golwg 360 wnes i drwsio’r broblem o fewn 5 munud..
Chware teg i ti. Wnes i sylwi’n eitha cyflym ar ôl cyhoeddi’r stori dy fod ti wedi gwirio pethe - ond o’dd e jyst mor ddoniol ar y pryd, o’dd e’n wych!
Da iawn ar y gwaith hefyd - er i ti a fi ddewis cyfeiriadau ychydig yn wahanol i gwyno am y ddarpariaeth…
Damo - be’ sy’ mor anodd mewn creu safle call, Golwg360?