Arian cyhoeddus Golwg 360 i India?

Arian cyhoeddus Golwg 360 i India?

Ydi £200,000 o arian cyhoeddus y cynulliad wedi ei wario ar wasanaeth gwe eilradd gan gwmni o India? Dyma’r cwestiwn sy’n cael ei godi gan astudiaeth anfforensig o safleoedd gwe sydd ar gael yn awr i bawb eu gweld ar-lein. Mae cysylltiad amlwg rhwng safle Golwg 360 a chwmni IndInfoTech o Hyderabad, India, sy’n “arbenigo” mewn darparu safleoedd gwe. A wnaeth arian cyhoeddus gael ei wario tu allan i Gymru - a hyd yn oed Prydain? A gafodd unrhyw arian o gwbl ei wario ar safle Golwg 360 (beta)?

Dechrau’r daith

Yn hwyr (iawn) un noson, roedd Cachu360(beta) ar-lein. Ar-lein i weld  a oedd unrhyw bwt newydd ar gael gan rhywun am Golwg 360 (beta).

Ar google, dyma chwilio am Golwg360, a bant a ni.

Tudalen cyntaf canlyniadau Google wrth chwilio am Golwg360

Tudalen cyntaf canlyniadau Google wrth chwilio am Golwg360

Doniol iawn a dweud y gwir yw gweld taw’r geiriau cyntaf mae Google yn eu defnyddio wrth gyflwyno gwybodaeth am Golwg 360 yw “Yn anffodus”. On’d yw technoleg yn wych?

‘Mlaen aeth Cachu360 (beta)… Mynd heibio i ambell dudalen ddiddorol iawn, ond dim byd oedd yn anhygoel o newydd.

Sylwadau Ordovicious am Golwg360

Sylwadau Ordovicius am Golwg360

Ymlaen ac ymlaen drwy’r canlyniadau tan cyrraedd tudalen 5 y cynlyniadau:

Tudalen 5 o ganlyniadau Google wrth chwilio am Google 360

Tudalen 5 o ganlyniadau Google wrth chwilio am Google 360

Yno, ar hanner y dudalen oedd cyswllt gyda’r geiriau “Telerau ac Amadau”. Nawr te - o’dd hyn yn atgoffa Cachu360 o rywbeth arbennig iawn…

Termsandconditions.aspx

Un o’r pethau cynta’ gwnaethon ni edrych arnyn nhw ar ddiwrnod lansio Golwg 360 oedd y ffaith bod tudalen delerau Golwg 360 yn wag - ac yn fwy na hynny, ei bod wedi’i henwi’n Saesneg: Termsandconditions.aspx.

Gyda’r cyswllt yma, roedd “GolwgN” (Golwg Newydd/New?)  yn y rhestr o gyfeiriaduron - roedd y cynnwys yn Gymraeg yn amlwg - er yn wallus. Ro’dd Cachu360 am ganfod pwy a beth fyddai’n sôn am delerau Golwg!

Clic!

Amodau golwg ar safle IndInfoTech.net

"Amadau" Golwg 360 ar safle IndInfoTech.net

Wel wir! Dyma gynnwys eitha’ manwl o ystyried taw nid safle Golwg yw e’. Wedi dweud hynny, mae’r dyluniad yn ein hatgoffa ni o rywbeth hefyd. Mae’r cynnwys yn sicr yn cyfeirio at Golwg360. Mae’r cyfeiriad gwe hefyd yn hynod o debyg i’r hyn welwn ni ar safle Golwg360:

  • http://indinfotech.net/GolwgN/Termsanconditions.aspx
  • http://www.golwg360.com/Termsandconditions.aspx

O ddarllen y cynnwys, mae’n lled amlwg taw’r rhain oedd y telerau oedd i fod ar safle Golwg360 o’r diwrnod cyntaf un.

Tybed a yw safle Golwg yn gyfan yno?

Gwnaeth Cachu360 dalfyrio’r cyfeiriad gwe i “http://indinfotech.net/GolwgN/” - i weld a oedd unrhyw beth i’w weld yno:

Y cyfeiriad gafodd ei ddyfalu i gael at brif safle prawf Golwg360

Y cyfeiriad gafodd ei ddyfalu i gael at brif safle prawf Golwg360

Safle prawf Golwg360

Safle prawf Golwg360

Wel myn yffach i! Mae safle Golwg 360 yn gyfan-gwbl yno! Pwy feddyliai!

Safle prawf Golwg 360

Mae’n anhygoel i safle prawf unrhyw brosiect fod ar agor i’r cyhoedd o gwbl. Mae hi’n fwy anhygoel bod safle prawf ar agor i beiriannau chwilio. Byddai unrhyw ddatblygydd gwe hanner pan wedi llwyddo i guddio’r cynnwys o ymwelwyr yn gyffredinol ar ddatblygiad mor sensitif a Golwg360.

Ond dyna ni, dyma safle Golwg360 ar ail weinydd arlein.

Mae modd gweld safle Golwg 360 bron yn union fel yr oedd ar ddiwrnod y lansiad. Mae modd clicio ar y storiau, mae modd chwerthin ar y dyluniad, mae modd gwatwar y lluniau stretsh - popeth sy’n bosib ar safle go iawn Golwg 360.

Un o’r pethau diddorol yw nad oes un o’r straeon yn fwy newydd na’r 7ed o Fai. Mae digon o straeon byw cyn hynny, ond mae’n amlwg na fu cysylltiad â chronfa ddata Golwg ar ôl y dyddiad hwnnw.

Stori ar Golwg360 yn dangos dyddiad - 7/5/09

Stori ar Golwg360 yn dangos dyddiad - 7/5/09

Stori ar Golwg360 yn dangos dyddiad - dim hwyrach na 7/5/09

Stori ar Golwg360 yn dangos dyddiad - dim hwyrach na 7/5/09

Mae hyn yn fy atgoffa i o sylwad wnes i ei ddarllen ar maes-e:

“Dim ond un problem ‘bach’ sydd yn achosi y problemau technegol i gyd (a ddyliai hyn fod wedi ei ddatrys nawr, dros dro, feth bynnag..) - fe brofon yn helaeth ar sustem ddatblygu ac roedd a sustem fyw yn wahanol.”

Mae’n amlwg felly taw hon oedd y system brawf a ddefnyddiwyd i ddatblygu safle Golwg 360.

Wythnos cyn y lansiad fe symudon nhw’r cysylltiadau bwydo cynnwys i weinydd newydd gan adael hwn fel darlun o sut oedd Golwg 360 (ar ei anterth?).

Pwy sy’n cynnal y gweinydd prawf? Indinfotech

Cawson ni sôn fod Tinopolis, Golwg, Telesgop a TVeverywhere wedi bod yn gefn i ymdrechion Golwg 360 - er bod haeriad yno na wariwyd dim o’r arian cyhoeddus ar y safle.

Mae’n amlwg fod y safle prawf wedi’i yrru o barth (domain) indinfotech.net, ond does dim safle gwe i’w weld wrth ddilyn y trywydd hwnnw.

Y cam nesa’ i mi oedd canfod pwy oedd wedi cofrestru’r enw parth. Mae modd gwneud hyn drwy fynd i wasanaeth “whois” ar-lein - sy’n rhestru’r cysylltiadau amrywiol ar gyfer y rhai sy’ wedi cofrestru enwau parth. Mae cofrestriadau personol yn gallu cael eu cadw’n breifat - ond mae cwmniau’n gyffredinol yn cofrestru’n gyhoeddus.

Chwiliad Whois am indinfotech.net

Chwiliad whois am indinfotech.net

Canlyniad y chwilio am indinfotech.net

Canlyniad y chwilio am indinfotech.net - "Administrative Contact: Indinfotech srikrishna Nakka (rani(yn)indinfotech(dotyn)com)Fax: +1.4253730689 13605 NE 8th St ,#202 Bellevue, WA 98005 US"

Mae’n amlwg fod cysylltiad yn ôl y canlyniadau rhwng indinfotech.net a indinfotech.com, sy’ ddim yn hollol ysgytwol fel newyddion.

Y peth mwya’ diddorol i ni yw fod yna safle gwe wrth fynd i gyfeiriad indinfotech.com:

Safle gwe indinfotech.com

Safle gwe indinfotech.com

O ddarllen y safle, mae’n amlwg taw cwmni gwasanaethau cyfrifiadurol cyffredinol yw indinfotech.

Tudalen ar safle indinfotech.com

Tudalen ar safle indinfotech.com

Mae hefyd opsiwn gyda nhw i sgwrsio arlein! Beth am glicio?

indinfotech.com yn methu a chynnal sgwrs arlein er i'w safle gymell cysylltu fel hyn

indinfotech.com yn methu a chynnal sgwrs arlein er i'w safle gymell cysylltu fel hyn

O diar - y safle wedi torri. Am syndod.

Pencadlys yn Seattle, gweithwyr yn India

Ond arhoswch! Beth yw hyn? Ar y dudalen “Team” - mae manylion am adeiledd y cwmni

Tudalen "Team" ar safle indinfotech.net - yn manylu fod y tim technegol i gyd yn India

Tudalen "Team" ar safle indinfotech.net - yn manylu fod y tim technegol i gyd yn India

Yma fe gewn ni ddisgrifiad o leoliad y gweithwyr. Mae ‘na bencadlys yn Seattle, ond mae’r gweithwyr technegol i gyd yn India. Mae’r cwmni yma felly’n un o normau newydd y byd busnes yn gyffredinol:

Bydd cwmni sydd a chriw o weithwyr sy’n rhad eu talu mewn gwlad debyg i India yn sefydlu pencadlys mewn gwlad arall er mwyn ennill gwaith yn y wlad honno, ac yna’n allforio’r gwaith i’w gwblhau gartre.

Enghraifft o gorff yng Nghymru sydd wedi defnyddio gwasanaethau busnes o’r fath (yn hollol safonol a llwyddiannus) yw’r Llyfrgell Genedlaethol - a gafodd ffeiliau testun electronig  hygyrch wedi’u creu o hen lyfrau bregus anhygyrch wrth ofyn i gwmni tebyg eu trosi. Pencadlys y cwmni yma - a’r gwaith yn cael ei wneud dramor. (- Os yw Cachu360 yn cofio’n iawn - ymddiheuriadau os yw’r union ffeithiau yn anghywir).

Golwg360 - Arloesi yn India?

Ar safle indinfotech.com, mae dogfennau’n dangos ystod eu gwasanaethau - ac yn dangos enghreifftiau o’r hyn mae’n nhw wedi ei wneud yn y gorffennol:

Tudalen o pdf ar safle indinfotech.net yn dangos y gwasanethau sydd ar gael

Tudalen o pdf ar safle indinfotech.net yn dangos y gwasanethau sydd ar gael

Tudalen o pdf ar safle indinfotech.net yn dangos esiamplau o safleoedd y mae'n nhw wedi'u creu

Tudalen o pdf ar safle indinfotech.net yn dangos esiamplau o safleoedd y mae'n nhw wedi'u creu

O diar… India 360?

Fel cam pellach, maleisus, fe ddefnyddiais i declyn profi safleoedd am gywirdeb technegol arlein… Ie, wel, ga i ond dweud fod gan IndInfoTech yr union gymwysterau i fod yn gymorth datblygu i Golwg 360…

adroddiad cywirdeb ar safle indinfotech.com - yn dangos 44 gwall mawr

adroddiad cywirdeb ar safle indinfotech.com - yn dangos 44 gwall mawr

Wrth i Cachu360 sgwennu hyn, mae 122 gwall mawr ar dudalen hafan Golwg360.com…

Cwestiynau

  1. I gloi, rhaid gofyn felly - o weld y “prawf” sydd ar gael uchod - a fu i’r arian cyhoeddus a wariwyd ar Golwg 360 fynd ar wasanaethau cyfrifiadurol yn Seattle ac India?
  2. Pam fod swmp y datblygu wedi cael ei wneud tu allan i Gymru, pan allai’r gwaith datblygu fod wedi bod yn anhygoel o werthfawr i’r gymuned Gymreig ar-lein yng Nghymru - sef cynulleidfa Golwg 360 (beta)?
  3. Ydi Golwg wedi cymryd cam gwag wrth symud o fyd cyhoeddi ar bapur i gyhoeddi ar-lein?
  4. Ydi’r cyhoedd yn haeddu gwell o feddwl am yr arian cyhoeddus a roddwyd i gwmni preifat?
  5. Ydi Dylan Iorwerth yn gwybod beth yw “internets”?
  6. Ydi tiwbs gwe Cymru’n rhy llawn i ni fedru gwerthfawrogi Golwg 360?

Byddai atebion i’r ddau gwestiwn cynta’ yn unig yn hen ddigon i Cachu360

(beta).

Cysylltiadau:

  1. Ordovicius
  2. maes-e
  3. indinfotech.net/GolwgN/Termsandconditions.aspx
  4. indinfotech.net/GolwgN/ui/users/homeview.aspx
  5. Gwirydd HTML safle Golwg360
  6. Alffa-Beta Soup Golwg 360