Mae digon o arsylwi wedi bod ar ochr dechnegol Golwg 360. Ar ddydd Gwener, fe wnaeth Golwg 360 y cam diddorol o fynd a’r prosiect yn ol i statws “beta”.
Norm unrhyw brosiect gwe yw casglu’r syniadau o beth sydd ei angen at eu gilydd, gan geisio greu adeiledd mewnol digonol, ac yna rhoi croen cyhoeddus ar y cwbl a”i alw’n fersiwn “alffa”. Prin y rhyddheid unrhyw alffa yn gyhoeddus - mae’r safle’n gyffredinol anhygyrch, yn hyll ac yn llawn gwallau go fawr na fyddai unrhywun eisiau gadael i’r cyhoedd eu gweld (swnio’n gyfarwydd?). Ar ôl cael sylwadau cyfeillion a theulu ac o bosib sawl sesiwn profi mewnol, mae’r croen cyhoeddus yma’n cael ei wella; mae’r adeiledd mewnol yn cael ei ddatblygu’ ymhellach; mae’r cwbl yn cael ei dacluso’n gyffredinol. Ond wedi hyn y bydd prosiect yn cyrraedd safon “beta”.
Norm beta yw fod y safle’n ddigon da i’r cyhoedd ei weld a’i ddefnyddio er mwyn profi yn y byd “go iawn” a yw’r safle’n gweithio’n ddigonol. Yn aml yn y cyfnod yma daw namau i’r golwg na fyddai’n bosib eu rhagweld. Prin y bydd unrhyw ffanfer o gwbl am y rhyddhad beta - gan fod y safle o hyd yn eitha’ pell o gyrraedd pen y daith. Wedi hir oriau o waith caled, bydd y pecyn yn cael ei ystyried yn ddigon da i ollwng y term “beta” a’i rhyddhau i ffanffer mawr yn gyhoeddus.
I grynhoi:
- Yn arferol:
- Alffa - Datblygu
- Beta - Profi a gwella
- Rhyddhau - Cyhoeddus
- Golwg 360:
- Rhyddhau - Cyhoeddus
- Beta - Datblygu
- Alffa - erm… ??
Y’ch chi am gyfadde’ Golwg 360? Cyfadde’ch bod chi’n gwybod ffycol am y we?
O wel…
