cachu360 yn fyw!

cachu360 yn fyw!

Wel, mae’r safle wordpress yn fyw ac yn gweithio - sy’n fwy na sy’n wir am golwg360 ar hyn o bryd.
Bydd mwy o newyddion gyda ni pan fyddwn ni wedi cyflogi newyddiadurwyr. Gwarion ni’r arian i gyd ar y safle yn anffodus, felly sdim lot o gynnwys gyda ni. Byddwn ni’n gweithio ar hynny dros y flwyddyn nesa - felly rhowch bob chware teg i ni: ni ‘di bod yn uffernol o broffesiynnol hyd yn hyn yn datblygu’r meddalwedd ac yn gwneud yn siwr bydd y safle’n gweithio’n iawn.

Lansiwyd y safle bore ‘ma gan El Presidente - llywydd adran diwylliant politburo Cymfa. Ma’ ‘da ni lun gwych ohono fe ma rhywle - os rhowch chi fis neu ddau i ni, fi’n siwr y gallwn ni ei ffindo fe.

Am y tro, mwynhewch drafodaeth maes-e ar y pwnc.